Cynnal prosiect Ffrindiau Darllen
Mae’r dudalen hon ar gyfer sefydliadau cymunedol a llyfrgelloedd cyhoeddus a hoffai ddechrau cynnal Ffrindiau Darllen a dod yn rhan o’r gymuned Ffrindiau Darllen. Ar hyn o bryd, dim ond sefydliadau sy’n gallu cynnal Ffrindiau Darllen, nid unigolion, gan fod angen i ni wneud yn siŵr bod polisïau a gweithdrefnau priodol ar waith i gadw pawb yn ddiogel.
Mae pawb sy’n gysylltiedig yn Ffrind Darllen, ond mae gennym ni i gyd rolau gwahanol. Mae’r Cydlynydd Ffrindiau Darllen yn ganolog i bob prosiect Ffrindiau Darllen, ac yn sicrhau ei fod yn cael ei gynnal yn ddidrafferth. Maen nhw hefyd yn recriwtio a chefnogi ffrindiau darllen gwirfoddol a staff i gynnal sesiynau.
Gadewch i ni ddweud ychydig yn fwy wrthych am Ffrindiau Darllen, pam mae’n bwysig a beth mae arnoch ei angen i ddechrau’ch prosiect.
Ehangodd yr Asiantaeth Ddarllen trwy wasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus yn Lloegr yn 2021, gyda chymorth gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Rydym yn gweithio ar fodelau eraill fel bod sefydliadau eraill yn gallu cymryd rhan. Os ydych yn sefydliad gwahanol, cofrestrwch eich diddordeb, a byddwn yn rhoi gwybod i chi pryd y gallwn ehangu ymhellach.
Beth ydyw?
Mae Ffrindiau Darllen yn cysylltu pobl trwy ddefnyddio darllen i gychwyn sgyrsiau, gan ddarparu cyfleoedd i gyfarfod â phobl eraill, rhannu straeon, gwneud ffrindiau newydd, a chael hwyl. Mae’n creu cysylltiadau cymdeithasol ac yn defnyddio ymagwedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan gyfeirio at ddiddordebau a hobïau i annog pobl i siarad.
Gwyliwch Yarn Natter Blether a Ffrindiau Darllen yng Nghymru i weld rhai o’n cyfranogwyr a gwirfoddolwyr a gyfarfu wyneb yn wyneb cyn Covid ac edrychwch ar ein hadran rhannu straeon ar gyfer mwy. Mae prosiectau wedi bod yn cynnal Ffrindiau Darllen dros y ffôn ac yn rhithwir fwyfwy yn ystod y pandemig.
Darllenwch ein Hegwyddorion Arweiniol i gael gwybod beth sy’n ein gwneud yn wahanol! Nid grŵp darllen traddodiadol mohonom ac nid oes angen i’r bobl sy’n cymryd rhan yn Ffrindiau Darllen fod yn ‘ddarllenwyr’, oherwydd defnyddir darllen i gychwyn sgwrs, creu cysylltiadau a helpu pobl i ddod i adnabod ei gilydd.
Pam mae’n bwysig?
Mae ein gwerthusiadau wedi canfod bod Ffrindiau Darllen yn creu cysylltiadau ystyrlon, ac yn datblygu perthnasoedd cadarnhaol ac ymdeimlad o gymuned1, sydd i gyd yn bwysig ar hyn o bryd. Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn broblemau mawr2, ond mae Covid-19 wedi gwaethygu hyn3. Edrychwch yn fanylach ar rywfaint o’r gwaith ymchwil o 2020.
Beth mae arnoch ei angen?
Bydd angen i chi sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau priodol ar waith. Mae gennym wybodaeth am rai defnyddiol pan fyddwch yn dechrau gyda Ffrindiau Darllen, ond dyma rai o’r polisïau allweddol y mae’n rhaid iddynt fod ar waith:
- Diogelu
- Iechyd a Diogelwch
- Diogelu Data neu Breifatrwydd
- Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
- Polisi gwirfoddolwyr
- Asesiadau risg
Pan fyddwn yn barod i ehangu ymhellach, y cam nesaf yw llofnodi cytundeb, yna byddwn yn caniatáu i chi gael mynediad at ein hyfforddiant a’n hadnoddau. Yn y cyfamser, cofrestrwch eich diddordeb uchod i gynnal Ffrindiau Darllen.
- Renaisi (2019) – Tackling loneliness through reading
- Yr Ymgyrch i Roi Terfyn ar Unigrwydd – The Facts on loneliness
- Y Groes Goch Brydeinig (2020) – Life after Lockdowna Lonely and left behind. What Works Wellbeing (2020) How has Covid-19 affected loneliness
Dysgwch fwy!
Ymunwch â’n rhestr bostio i ddysgu mwy am Ffrindiau Darllen.