
Cyfle i glebran
Mae Ffrindiau Darllen yn parhau i wneud gwahaniaeth, gan gydweithio â llyfrgelloedd cyhoeddus yn ystod 2021-2022.

Beth rydym yn ei wneud
Mae Ffrindiau Darllen yn rhaglen gyffrous a gynhelir ledled y Deyrnas Unedig gan yr Asiantaeth Ddarllen, a ddatblygwyd gyda chyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
Mae Ffrindiau Darllen yn mynd i’r afael ag unigrwydd trwy ddod â phobl ynghyd i ddarllen, sgwrsio a rhannu straeon.

Dod o Hyd i Ffrindiau Darllen
Mae Ffrindiau Darllen yn rhaglen a gynhelir ledled y Deyrnas Unedig, ac rydym yn cyflwyno prosiectau mewn partneriaeth â sefydliadau lleol.
Cliciwch isod i ddod o hyd i’ch prosiect agosaf neu gofrestru’ch diddordeb ar gyfer y dyfodol.

Dechrau arni
Oes gennych chi ddiddordeb mewn dechrau prosiect Ffrindiau Darllen lleol? Mae gennym ni’r holl offer, adnoddau a hyfforddiant y mae arnoch eu hangen.
Hoffem ehangu ymhellach trwy lyfrgelloedd cyhoeddus, felly cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.

Gall eich haelioni ein helpu i ddod â mwy o bobl ynghyd fel Dorothy a Steve.
Cefnogwch ein gwaithDysgwch fwy!
Ymunwch â’n rhestr bostio i ddysgu mwy am Ffrindiau Darllen.