"I don't feel alone any longer"
Find out more
Brought to you by The Reading Agency
Mae Ffrindiau Darllen yn dod â phobl ynghyd i ddarllen, rhannu straeon, cyfarfod â ffrindiau newydd a chael hwyl. Rydym yn defnyddio darllen – p’un a yw hynny’n llyfrau, cylchgronau, papurau newyddion, neu unrhyw beth arall – i annog pawb i ddechrau sgwrsio.
Ein cenhadaeth yn yr Asiantaeth Ddarllen yw mynd i’r afael â heriau mawr bywyd, fel unigrwydd a theimlo’n ynysig, trwy rym profedig darllen.
Mae Ffrindiau Darllen, a ddatblygwyd yn 2017 gyda chyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn cysylltu pobl trwy ddefnyddio darllen i ddechrau sgyrsiau.
Rydym yn defnyddio ymagwedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan gyfeirio at ddiddordebau a hobïau i annog pawb i siarad. Rydym yn defnyddio grym straeon a rennir i ysgogi sgyrsiau mewn grwpiau a sesiynau un i un, gan gydweithio â sefydliadau cymunedol lleol a gwirfoddolwyr o bob oed i ffurfio cysylltiadau cymdeithasol. Gyda’n gilydd, rydym yn cyrraedd pobl sy’n agored i niwed, yn ynysig ac mewn perygl o unigrwydd, yn enwedig y rhai y mae’r pandemig wedi effeithio arnynt fwyaf.
Crëwyd Ffrindiau Darllen ar y cyd â phobl hŷn ac mae wedi cael ei brofi gyda phartneriaid cyflawni prosiect lleol. Gwnaethom weithio mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru a Verbal yng Ngogledd Iwerddon i gyflwyno Ffrindiau Darllen ledled y Deyrnas Unedig.
Dewiswyd yr Asiantaeth Ddarllen fel un o’r elusennau ar gyfer Apêl Nadolig The Times 2019, gan ganolbwyntio ar ein gwaith ar unigrwydd a darllen, ac amlygu straeon ar draws rhaglen Ffrindiau Darllen.
Ehangodd Ffrindiau Darllen yn 2021 trwy lyfrgelloedd cyhoeddus yn Lloegr gyda chyllid gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
Dysgwch fwy am y gwahaniaeth y mae’r rhaglen wedi’i wneud trwy straeon o’n prosiectau a thrwy ein hadroddiadau gwerthuso.
Ymunwch â’n rhestr bostio a dilynwch ni ar Twitter.
Gall eich caredigrwydd ein helpu i ddod â mwy o bobl ynghyd fel Terry, Karuna a Jean
Cefnogwch Ffrindiau DarllenMae Ffrindiau Darllen yn rhan o’r elusen genedlaethol, The Reading Agency. Edrychwch ar rai o’n rhaglenni eraill:
Yn 2017/2018, cynorthwyodd Darllen Ymlaen 38,500 o bobl ledled y Deyrnas Unedig trwy lyfrgelloedd cyhoeddus, colegau, gweithleoedd a charchardai.
Find out more
Cofrestrwch i ymuno â Grwpiau Darllen i Bawb i gael mynediad at gynigion arbennig gan gyhoeddwyr a’r cyfle i ennill llyfrau.
Find out more
Mae Darllen yn Well ar gyfer Iechyd meddwl yn rhoi gwybodaeth a chymorth defnyddiol i reoli cyflyrau iechyd meddwl cyffredin, neu ymdopi â theimladau a phrofiadau anodd.
Find out more
Ymunwch â’n rhestr bostio i ddysgu mwy am Ffrindiau Darllen.
Hear about exciting news across The Reading Agency. Reading Friends specific news will be included in The Reading Agency Roundup.
* indicates required
* indicates required