Cefnogi Ffrindiau Darllen

Gall eich caredigrwydd ein helpu i ddod â mwy o bobl ynghyd.
Mae Ffrindiau Darllen yn rhaglen gyffrous gan yr Asiantaeth Ddarllen. Rydym yn defnyddio darllen i ddod â phobl ynghyd, creu cysylltiadau a mynd i’r afael ag unigrwydd ledled y Deyrnas Unedig. Ein cenhadaeth yw byd lle mae pawb yn darllen ei ffordd tuag at fywyd gwell, ac mae arnom angen eich help i wneud hyn.
Gyda £10
Gallwn dalu costau trafnidiaeth ar gyfer un o’n gwirfoddolwyr i ymweld â Ffrind Darllen bedair gwaith.
Gyda £25
Gallwn ddarparu adnoddau argraffedig i gynorthwyo gwirfoddolwyr sy’n cynnal grwpiau ar gyfer pobl â dementia.
Gyda £50
Gallwn ddarparu ystafell a lluniaeth yn y llyfrgell leol i gynnal digwyddiad arbennig ar gyfer Ffrindiau Darllen.
Cefnogwch Ffrindiau Darllen i helpu i ddod â mwy o bobl ynghyd i sgwrsio, rhannu straeon a chael hwyl.