Gwirfoddoli gyda Ffrindiau Darllen

Mae’r dudalen hon ar gyfer pobl sydd eisiau gwirfoddoli gyda Ffrindiau Darllen. Cyn Covid-19, roedd popeth wyneb yn wyneb, felly mae ein prosiectau ledled y Deyrnas Unedig wedi bod yn newid eu dulliau, lle y bo’n bosibl, i sesiynau ffôn a rhithwir. Ar ddechrau 2021, fe ddechreuom ehangu trwy wasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus yn Lloegr.
Mae pawb sy’n gysylltiedig yn Ffrind Darllen, ond mae gennym ni i gyd rolau gwahanol. Mae gwirfoddolwyr Ffrindiau Darllen yn arwain neu’n cefnogi sesiynau – gan ddod o hyd i ddeunydd darllen a hwyluso sgyrsiau gyda chwestiynau a syniadau i’w trafod – pan fo angen. Yn aml, pan fydd y sgwrs yn dechrau llifo, does dim angen llawer o hwyluso!
Mae gwirfoddolwyr yn cael eu recriwtio a’u cefnogi’n uniongyrchol gan ein prosiectau lleol, felly edrychwch i weld a oes un yn eich ardal chi. Os na, gallwch gofrestru’ch diddordeb ar gyfer y dyfodol pan fyddwn yn ehangu ymhellach.
Gadewch i ni ddweud ychydig yn fwy wrthych am Ffrindiau Darllen, pam mae’n bwysig a sut mae gwirfoddolwyr wedi gwneud gwahaniaeth.
Beth yw Ffrindiau Darllen?
Mae Ffrindiau Darllen yn cysylltu pobl trwy ddefnyddio darllen i gychwyn sgyrsiau, gan ddarparu cyfleoedd i gyfarfod â phobl eraill, rhannu straeon, gwneud ffrindiau newydd, a chael hwyl. Mae’n creu cysylltiadau cymdeithasol ac yn defnyddio ymagwedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan gyfeirio at ddiddordebau a hobïau i annog pobl i siarad.
Gwyliwch Yarn Natter Blether a Ffrindiau Darllen yng Nghymru i weld rhai o’n cyfranogwyr a gwirfoddolwyr a gyfarfu wyneb yn wyneb cyn Covid ac edrychwch ar ein hadran rhannu straeon ar gyfer mwy.
Darllenwch ein Hegwyddorion Arweiniol i gael gwybod beth sy’n ein gwneud yn wahanol! Nid grŵp darllen traddodiadol mohonom ac nid oes angen i’r bobl sy’n cymryd rhan yn Ffrindiau Darllen fod yn ‘ddarllenwyr’, oherwydd defnyddir darllen i gychwyn sgwrs, creu cysylltiadau a helpu pobl i ddod i adnabod ei gilydd.
Pam mae’n bwysig?
Mae ein gwerthusiadau wedi canfod bod Ffrindiau Darllen yn creu cysylltiadau ystyrlon, ac yn datblygu perthnasoedd cadarnhaol ac ymdeimlad o gymuned1, sydd i gyd yn bwysig ar hyn o bryd. Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn broblemau mawr2, ond mae Covid-19 wedi gwaethygu hyn3. Edrychwch yn fanylach ar rywfaint o’r gwaith ymchwil o 2020.
Y gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud
Mae gwirfoddolwyr yn cael effaith fawr ar yr unigolion maen nhw wedi siarad â nhw a’r grwpiau maen nhw wedi’u harwain. Mae cyfranogwyr wedi dweud yn ddiweddar,
“Mae’n rhaid i mi gyfaddef, mae Ffrindiau Darllen wedi fy nghadw i’n brysur gyda rhywbeth i’w wneud yn y fflat ac wedi fy nghadw i fynd. Mae wedi rhoi hwb i mi yn hytrach na theimlo’n gwbl ynysig a dan glo ar fy mhen fy hun.”
“Roedd yn sicr wedi rhoi teimlad o gysylltiad i mi â phobl eraill. Rwy’n ffodus fy mod i’n byw gyda fy ngŵr, ond mae eithaf tipyn o bobl yn y grŵp ar eu pen eu hunain.”
Ond mae gwirfoddoli’n cael effaith ar wirfoddolwyr hefyd, gyda sylwadau diweddar yn cyfeirio at ymdeimlad o bwrpas, y boddhad a ddaw yn sgil helpu pobl eraill a datblygu sgiliau:
“Mae gen i lawer o amser ac rwy’n hoffi cadw’n brysur. Boddhad a theimlo’ch bod chi wedi gwneud rhywbeth ar ran eich cymuned.”
“Mae hefyd wedi rhoi rhywbeth diddorol i mi ei wneud. Mae wedi gwneud i mi feddwl ychydig, felly mae wedi rhoi teimlad o hunan-barch i mi, dybiwn i.”
“Fe ddysgais i am reoli sgwrs pan na allwch weld y person arall i wybod pryd mae’n mynd i siarad neu stopio siarad.”
- Renaisi (2019) – Tackling loneliness through reading
- Yr Ymgyrch i Roi Terfyn ar Unigrwydd – The Facts on loneliness
- Y Groes Goch Brydeinig (2020) – Life after Lockdowna Lonely and left behind. What Works Wellbeing (2020) How has Covid-19 affected loneliness
Dysgwch fwy!
Ymunwch â’n rhestr bostio i ddysgu mwy am Ffrindiau Darllen.